Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

18 Chwefror 2019

SL(5)317 - Gorchymyn Ciniawau Ysgol a Llaeth am Ddim (Credyd Cynhwysol) (Cymru) 2019

Gweithdrefn: Negyddol

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio’r meini prawf cymhwystra presennol ar gyfer cael cinio ysgol a llaeth am ddim ("prydau ysgol am ddim") drwy nodi, o 1 Ebrill 2019 ymlaen, bod teuluoedd sy’n cael Credyd Cynhwysol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu hincwm blynyddol a enillir yn £7,400 neu lai.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn darparu ar gyfer amddiffyniad trosiannol i sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn colli ei gymhwystra am brydau ysgol am ddim yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Rhiant-Ddeddf: Deddf Addysg 1996

Fe’u gwnaed ar: 5 Chwefror 2019

Fe’u gosodwyd ar: 6 Chwefror 2019

Yn dod i rym ar: 1 Ebrill 2019